Deiseb a gaewyd Llygedyn o obaith o dan fygythiad: Cefnogwch Hwb Llesiant Cymunedol Bronllys os gwelwch yn dda!

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud fel a ganlyn:
-cefnogi’r broses o drosglwyddo tir segur ar safle Ysbyty Cymunedol Bronllys (YCB) i Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Parc Llesiant Bronllys Ltd am swm mewn enw i ddatblygu hwb llesiant cymunedol;
-annog Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ymateb i bryderon y gymuned mewn modd sy’n barchus, yn dryloyw ac yn cefnogi’r fenter gymunedol arfaethedig;
-croesawu amcanion hirdymor y cynnig hwn sydd wedi bod yn destun gwaith ymchwil gofalus, sydd â’r nod o wella bywydau pobl leol.

Rhagor o fanylion

Mae’r tir o gwmpas Ysbyty Cymunedol Bronllys wedi bod yn wag ers dros ganrif. Mae perygl iddo gael ei werthu i ddatblygwyr.
Mae sefydliad cymunedol ag iddo bron 700 o aelodau, sef Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Parc Llesiant Bronllys Ltd, wedi mynd ati’n ddiflino i geisio cydweithio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ystyried a ellid trosglwyddo’r tir segur ar gyfer datblygiad cymunedol. Yn anffodus, mae’r Bwrdd Iechyd wedi methu sawl tro ag ymgysylltu’n ystyrlon â’r drafodaeth neu gyflwyno cynllun clir ar gyfer sut y caiff ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Ein gweledigaeth yw creu Hwb Llesiant Cymunedol ym Mronllys ag Ysbyty Cymunedol Bronllys yn ganolbwynt iddo, all ddarparu ar gyfer anghenion a dyheadau ein cymuned leol. Byddai’n gosod safon o ran sicrhau bod y gymuned yn rhan wirioneddol o’r broses, parodrwydd at y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor. Mae nifer o astudiaethau dichonolrwydd, gan gynnwys un gan Sefydliad y Tywysog, wedi cadarnhau y byddai’n fanteisiol defnyddio’r tir segur ar safle Ysbyty Cymunedol Bronllys yn y ffordd hon. Mae’r cynnig hwn yn cael ei gefnogi’n helaeth gan y gymuned, arweinwyr dinesig a ffigyrau gwleidyddol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

407 llofnod

Dangos ar fap

10,000