Deiseb a gaewyd Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y byddai gwasanaeth y Cardi Bach yn parhau. Yna, yn gwbl annisgwyl, daeth y newyddion y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 31 Hydref. Y rheswm, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yw ‘na chafwyd cyllid yn lle’r cyllid Ewropeaidd fel yr addawyd.’ Mae hyn yn newyddion drwg iawn i drigolion lleol nad oes car ar gael iddynt, yn ogystal ag i'r diwydiant twristiaeth.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i adfer y gwasanaeth fel rhan o'r contract newydd ar gyfer gwasanaeth y T5. Mae’n hollbwysig bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau nad yw cymunedau ar hyd y llwybr hwn yn cael eu hynysu am eiliad yn hwy nag sydd rhaid.
Wrth lansio Blwyddyn y Llwybrau 2023, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: ‘Nod y flwyddyn hon yw darganfod trysorau wedi'u colli, ymgymryd â theithiau'r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy'n gysylltiedig ag atyniadau, digwyddiadau, tirweddau a'r arfordir. Rydyn ni'n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac yn edrych ymlaen at annog pobl i ymweld â rhannau gwahanol o'r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf.'
Mae'r economi ymwelwyr yn gyfrannwr ac yn sbardun allweddol i'r economi yng Nghymru. Mae Covid wedi bod yn ergyd drom iddi. Mae gwasanaethau fel y Cardi Bach yn gwbl hanfodol er mwyn helpu i unioni’r niwed hwnnw!

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

842 llofnod

Dangos ar fap

10,000