Deiseb Galw ar y Prif Weinidog i ymyrryd ac achub Duolingo Cymraeg.

Ni fydd Duolingo yn diweddaru na datblygu ymhellach ei gwrs Cymraeg o ddiwedd mis Hydref 2023.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar y Prif Weinidog i ymyrryd yn y mater yn bersonol gyda Luis von Ahn, Prif Swyddog Gweithredol Duolingo, gyda’r nod o achub y cwrs Cymraeg.

Rhagor o fanylion

Mae dros 650,000 wrthi’n dysgu’r Gymraeg ar Duolingo ar hyn o bryd ac mae dros 2 filiwn wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg ar y cwrs.
Mae hyn yn sicr o gael effaith negyddol ar darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o bobl gyda sgiliau lefel B2 a gwell erbyn 2050.
Ffynhonnell: https://nation.cymru/news/language-learning-app-duolingo-to-mothball-welsh-course/

Llofnodi’r ddeiseb hon

3,801 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon