Deiseb a gaewyd Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith

Mae canser yr ysgyfaint yn cymryd 1,800 o fywydau bob blwyddyn, mwy nag unrhyw ganser arall yng Nghymru. Mae’n rhaid i hyn newid.
Gallwn wneud pethau i leihau’r effaith hon. Un o’r rhain yw sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu, a fyddai’n gwahodd pobl 55-74 oed i gael eu sgrinio os oes ganddynt risg uchel o ganser yr ysgyfaint.
Gall y sgrinio hwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach: a gall achub bywydau rhag canser yr ysgyfaint.
Drwy gymryd 2 funud i lofnodi, gallwch gynorthwyo galwadau ar Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi’r sgrinio hwn ar waith yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Yng Nghymru, mae bron i hanner yr achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod ar y cam hwyraf posibl. Mae gormod yn marw o ganser yr ysgyfaint am y rheswm hwn.
Drwy sgrinio’r rhai sydd â’r risg uchaf, gallwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynt: pan fydd y cyfraddau goroesi ar eu huchaf.
Gwyddom fod hyn yn gweithio, gan fod gwerthusiad o Wiriadau Iechyd yr Ysgyfaint wedi’u Targedu yn Lloegr (rhaglen beilot) wedi gweld:
- 76% o achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod yn gynnar.
Y llynedd, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU fod holl wledydd y DU yn sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu, ynghyd â darparu cymorth rhoi’r gorau i ysmygu. Mae'r sgrinio hwn ar gyfer pobl 55-74 oed heb symptomau, sydd â risg uchel o ganser yr ysgyfaint (y rhai sydd â hanes o ysmygu). Yn anffodus, dim ond un wlad yn y DU (Lloegr) sydd wedi ymrwymo i gyflwyno hyn yn genedlaethol. Mae’n rhaid i hyn newid.
Mae canser yr ysgyfaint yn achosi niwed mawr i Gymru. Gall sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu helpu i leihau'r niwed hwn, gan roi amser gwerthfawr i fwy o bobl gyda theulu a ffrindiau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

5,339 llofnod

Dangos ar fap

10,000