Deiseb Dylid rhoi terfyn ar arfer deintyddion o wrthod gweld a thrin pobl sy’n agored i niwed
Gall fod yn anodd i bobl sy’n agored i niwed fynd i apwyntiad deintydd oherwydd salwch, straen, cyfrifoldeb gofalu, problemau cludiant ac ati, ond mae deintyddion yn aml yn gwrthod gweld pobl sydd wedi colli ychydig o apwyntiadau. Nid yw’r arfer hwn yn ystyried eu hamgylchiadau personol, ac mae’n eu gwneud yn fwy agored i iechyd deintyddol gwael.
Rhagor o fanylion
Os yw deintydd yn tynnu unigolyn oddi ar ei restr gleifion, mae'n anodd iawn dod o hyd i ddeintydd arall y GIG. Dylai fod gwiriadau a rhywfaint o ystyriaeth i bobl sy’n agored i niwed a allai golli mynediad at ofal iechyd pwysig. Dylid diogelu pobl agored i niwed.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd