Deiseb a wrthodwyd Dylid rhoi rhagor o gyllid i Wasanaethau Iechyd Meddwl yn ein cymunedau yng Nghymru
Nid oes digon o arian yn ein cymunedau i helpu pobl, yn enwedig pobl Ifanc, sy'n cael trafferthion gyda'u hiechyd meddwl ac â bywyd yn gyffredinol. Rwyf wedi cael trafferth gydag iselder difrifol ac fe gymerodd dair blynedd i gael gweld Seicolegydd a chael therapi siarad. Faint o bobl sy'n marw oherwydd diffyg cyllid a rhestrau aros hir, ac am nad oes digon o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ar gael.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi