Deiseb a wrthodwyd Cymorth i bobl Palesteina: Cynnig lloches a noddfa yng Nghymru
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Senedd Cymru i ddangos undod â phobl Palesteina sy’n dioddef oherwydd y gwrthdaro presennol yn eu mamwlad. Rydym yn sylweddoli na all Llywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol mewn materion tramor ond credwn, fodd bynnag, y gellir cymryd camau ystyrlon a phwysig i gynorthwyo’r unigolion hyn yn eu hawr o angen - a chynnig noddfa iddynt.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw ar y Senedd i wireddu ei hymrwymiad i hawliau dynol a chynwysiant drwy gynorthwyo pobl Palesteina a chynnig lloches iddynt.
Rydym yn ei hannog i weithio gyda chyrff yn y DU a chyrff rhyngwladol i roi llais i’r alltudion, a chynnig lloches ddiogel iddynt, ehangu cynlluniau adleoli, hwyluso cynlluniau i gynnig noddfa i’r rhai sydd wedi’u hanafu, sicrhau bod adnoddau hanfodol ar gael iddynt yng Nghymru, a chodi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Cymru o sefyllfa Palestiniaid.
Credwn y bydd hyn yn tystio i werthoedd hawliau dynol Cymru ac yn gyfle i fod yn llais sy’n dylanwadu ar gynlluniau i roi cymorth byd-eang i’r rhai sydd wedi’u halltudio o Balesteina.
Mae angen gweithredu ar unwaith.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi