Deiseb a gaewyd Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl.
Yn dilyn perfformiad gwael hirdymor a phresennol y gwasanaeth rhywedd dan 18 yn Lloegr a'u rhestrau aros afresymol y mae plant a phobl ifanc Cymru wedi bod yn destun iddynt, rydym ni (Transvisioncymru) wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cymru ers dros ddwy flynedd i sefydlu ein gwasanaeth rhagorol ein hunain ar gyfer pobl ifanc o dan 18 yng Nghymru. Mae'r comisiynydd eisiau gweld newid hefyd ond nid yw adran iechyd Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen o gwbl eto.
Rhagor o fanylion
Rydym yn grŵp a sefydlwyd gan rieni plant trawsryweddol sydd wedi canfod bod y system bresennol yn amhosibl ei llywio ac nad yw’n rhoi unrhyw gefnogaeth i’n plant gwych. Dros amser, rydym wedi tyfu’n grŵp sy'n cynnwys pobl ifanc, rhieni/gofalwyr a chynghreiriaid. Rydym hefyd wedi dod ynghyd â llawer o grwpiau eraill yn yr ymgyrch hon i godi llais yn gryf dros hawliau pobl ifanc traws.
Cyhoeddwyd cynllun gweithredu LHDTC+ anhygoel, cynhwysol ar gyfer Cymru gyfan ym mis Ionawr 2023 sy'n datgan yn gyffrous mai un o’r prif ganlyniadau fydd gwella’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n adolygu’r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru ac yn parhau i ddatblygu’r Gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd. Mewn cyfarfod diweddar gyda swyddogion iechyd Llywodraeth Cymru, nid dyma’r llwybr maen nhw’n ei ddilyn ac maen nhw’n mynd i barhau i wneud i bobl ifanc Cymru aros am 4-5 mlynedd arall ar y rhestr aros am wasanaeth anfoddhaol. Mae angen gwasanaeth arnom nawr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod