Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cau

Deiseb a gaewyd Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd

Rydym yn galw am y canlynol:
Gweithredu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd, ni waeth beth fo'u gofynion dietegol o ran alergeddau, crefydd neu resymau personol.
Sicrhau, hyd y gellir, fod y prydau ysgol am ddim yn dod o ffynonellau moesegol a chynaliadwy, a bod hawliau gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu diogelu.
Annog pob ysgol i gael cegin o ansawdd dda ar y safle sy’n gwneud bwyd ffres pryd bynnag y bo modd a, phan na fo modd, fod cyflenwyr yn defnyddio cynnyrch ffres a lleol.

Rhagor o fanylion

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021, cyflwynwyd prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae gwneud hyn wedi bwydo degau o filoedd o blant ifanc y mae llawer ohonynt mewn tlodi, ac mae wedi lleihau yn aruthrol y stigma ynghylch derbyn y prydau bwyd hyn. Rhaid i fwydo plant fod yn flaenoriaeth wleidyddol bob amser.
Mae'n bryd i hyn fynd yn ei flaen. Yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, mae 19% – sef tua 25,000 – o blant mewn tlodi yn dal i fod heb fynediad at brydau ysgol am ddim oherwydd y profion modd mewn ysgolion uwchradd. Mae risg y byddan nhw’n mynd heb fwyd, ac mae Ymddiriedolaeth Trusell yn amcangyfrif bod 20% o oedolion yng Nghymru yn profi ansicrwydd bwyd.
Yn ogystal, credwn fod modd, a bod rhaid, i brydau ysgol am ddim i holl blant gael eu defnyddio i addysgu, gan gynnwys addysgu economeg y cartref yng Nghymru a hyrwyddo gwerth am arian a diet iach yn enwedig, ynghyd â ffynonellau lleol, moesegol a chynaliadwy, fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.

Caewyd i lofnodion newydd

Caiff penderfyniad ei wneud yn fuan i gyfeirio neu wrthod y ddeiseb hon – caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

254 llofnod

Dangos ar fap

10,000