Deiseb Newid polisi cludiant fel bod plant ag anableddau yn gallu cael mynediad at glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol

Cafodd fy merch ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd yn bedair oed. Ers hynny, nid oes unrhyw gymorth wedi bod ar gael am resymau cyllidol nes iddi ddechrau yn yr ysgol feithrin ac addysg amser llawn mewn lleoliad addysg anghenion arbennig. Mae pob plentyn yn cael ei gludo mewn tacsi i roi ymdeimlad o annibyniaeth iddynt, ac mae'r polisi'n nodi bod yn rhaid i bob plentyn gael ei godi a'i ollwng yn ei gartref. Mae hyn yn rhwystro cyfleoedd i rieni weithio neu fod mewn addysg amser llawn.

Rhagor o fanylion

Byddai rhoi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd newid eu trefniadau cludiant yn golygu bod plant yn gallu mynychu clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol, a hefyd yn rhoi’r hawl haeddiannol i rieni weithio neu fynd i’r ysgol eu hunain i helpu i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae peidio â rhoi mynediad i glybiau o’r fath i blant anabl yn groes i’r syniad o hawliau cyfartal ond mae hefyd yn cadarnhau nad oes cymorth ychwanegol ar gael i rieni ychwaith. Talodd Llywodraeth Cymru filiynau o bunnoedd am y cyfyngiadau cyflymder 20mya, ond nid yw’n fodlon buddsoddi yn y system addysg. Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n hen bryd newid y sefyllfa.
Rwy’n siarad ar ran pob rhiant sydd â phlentyn ag anghenion arbennig wrth ddweud ein bod ni bob amser yn gorfod brwydro dros sicrhau hawliau sylfaenol i’n plant.
Rwy’n gobeithio y bydd pob rhiant yng Nghymru yn llofnodi'r ddeiseb hon i sicrhau newid!!

Llofnodi’r ddeiseb hon

20 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon