Deiseb Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi dileu’r dreth stamp ar gyfer y rheini sy’n prynu eiddo – am y tro cyntaf – o dan £425k yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth drwy leihau Treth Trafodiadau Tir i’r un gyfradd ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes cyfradd ffafriol ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru. Yn hytrach, dim ond cyfradd unffurf o lai na £225k ydyw am bob cartref a brynir yma. Gyda phrisiau eiddo yn codi'n gyflym, mae'n dod yn fwyfwy anodd dod o hyd i eiddo afon o dan drothwy Llywodraeth Cymru, sef £225k.

Rhagor o fanylion

Mae prynu cartref cyntaf wedi dod yn fwyfwy anodd i’r rheini sy’n gwneud am y tro cyntaf – gyda’r argyfwng costau byw presennol, a chyfraddau morgais yn codi – ac mae’n cael ei wneud hyd yn oed yn fwy anodd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, yn sgil peidio ag ychwanegu cymhelliant ychwanegol, fel y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud. Drwy beidio â chael gwared ar y dreth, hon bydd yn ychwanegu at bobl sy’n dal i orfod rhentu yng Nghymru, yn methu â chael mynediad i’r farchnad dai neu hyd yn oed yn prynu y tu allan i Gymru. Pam cyfyngu ar y cymorth a’r dewis i’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru? Yn fy marn i, dylid cynnig cymaint o help â phosibl i roi pobl ar ben ffordd i brynu cartref.

Llofnodi’r ddeiseb hon

218 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon