Deiseb a gaewyd Cynyddu eglurder a hawliau’r rhai sy’n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw’n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol

Mae anghydbwysedd pŵer yn erbyn pobl anabl. Nid yw awdurdodau lleol yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar lesiant, rhoi llais a rheolaeth a chydgynhyrchu - egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae angen tegwch a

o Chymorth eirioli gwell ac mae angen corff cenedlaethol i gynrychioli llais defnyddwyr Taliadau Uniongyrchol
o Proses datrys anghydfod
o Dulliau cyfathrebu gwell
o Paneli cwynion awdurdodau lleol sy’n gwybod am y gyfraith a’r polisïau yng Nghymru
o Ailhyfforddi staff ALl i sicrhau eu bod yn deall ysbryd a bwriad y Ddeddf

Rhagor o fanylion

I ddyfynnu'r Adroddiad Gwerthuso Terfynol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 para 6.60: “I'r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a gyfwelwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn, roedd eu profiad yn un o rwystredigaeth. Yn hytrach na'r gobaith a gynigwyd gan y Ddeddf, roedden nhw'n gweld cyfres o rwystrau. Roedd y rhain yn cynnwys agwedd gymharol ‘tocynistaidd’ at wrando, anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a gweithwyr proffesiynol, yr angen i orfod ceisio galw gweithwyr proffesiynol yn barhaus am gymorth, a diffyg cydnabyddiaeth o’u hawliau yn enwedig o ran materion bod yn sensitif i'r hinsawdd ymhlith pethau eraill. Roedd y rhwystrau hyn yn gweithio yn erbyn y profiad oedd yn cael ei ‘gynnig’ a'i ‘addo’ gan egwyddorion sylfaenol y Ddeddf.”
Mae pobl anabl yn wynebu loteri cod post o ran y wybodaeth a'r gwasanaethau y gallant eu disgwyl. Mae angen gweithredu nawr.
Siawns bod arian Grant Byw'n Annibynnol Cymru wedi'i glustnodi ac na all unrhyw Gyngor ei adfachu ar fympwy? Beth ddigwyddodd i’r syniad o gydgynhyrchu?
Gweler cynsail cyfreithiol R (BG) V Cyngor Swydd Suffolk 2021 [EWHC] 3368 (Admin)

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

377 llofnod

Dangos ar fap

10,000