Deiseb Cyflwyno Dosbarth Defnydd E ar gyfer Safleoedd Busnes yng Nghymru

Cyflwyno Dosbarth Defnydd E ar gyfer Safleoedd Busnes yng Nghymru
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad Lloegr a mabwysiadu Dosbarth Defnydd E i symleiddio rheoliadau ar gyfer safleoedd busnes. Mae’r system gymhleth bresennol yng Nghymru, sy’n cynnwys dosbarthiadau defnydd gwahanol ac amrywiol, yn codi heriau sylweddol i fusnesau bach sy’n golygu eu bod yn wynebu prosesau hir a chostus ar gyfer newid defnydd adeiladau.

Rhagor o fanylion

Mae Dosbarth E wedi cael ei gyflwyno yn Lloegr i symleiddio'r dosbarthiadau defnydd ar gyfer safleoedd busnes, a hynny drwy integreiddio amrywiaeth o gategorïau blaenorol yn un. Mae'r newid hwn wedi bod o fudd sylweddol i fusnesau drwy ddarparu hyblygrwydd a lleihau biwrocratiaeth. Mewn cyferbyniad â hynny, mae system bresennol Cymru’n cynnwys nifer o ddosbarthiadau penodol ar gyfer safleoedd busnes (megis A1 ar gyfer siopau, B1 at ddibenion busnes, ac ati), ac mae hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd ac yn rhwystro twf busnes.
Byddai mabwysiadu Dosbarth E yng Nghymru yn cynnig fframwaith unedig a hyblyg ar gyfer safleoedd busnes a fyddai’n ei gwneud yn haws i fusnesau newid rhwng gwahanol ddefnyddiau heb yr angen am ganiatadau cynllunio helaeth. Byddai’n cynnig cysondeb rhwng rheoliadau Cymru a Lloegr a gwneud Cymru’n gyrchfan fwy deniadol ar gyfer buddsoddi.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Dosbarth Defnydd E ar gyfer safleoedd busnes. Mae’r diwygiad hwn yn hanfodol ar gyfer gwella’r amgylchedd busnes yng Nghymru, a byddai o fudd arbennig i fusnesau bach a busnesau sy’n dod i’r amlwg.
Diolch am ystyried ein deiseb.

Llofnodi’r ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon