Deiseb a gaewyd Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

Ar 5 Tachwedd 2023, cafodd amserlen fysiau newydd ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru a chafodd y gwasanaeth T2 drwy Garndolbenmaen ei dynnu’n ôl, sy’n golygu nad yw’r bysiau T2 yn galw yn y pentref mwyach.
Bellach, mi fydd bron yn amhosibl i bobl Garndolbenmaen deithio i'r gwaith, i'r ysgol neu i apwyntiadau ysbyty.
Nid oes unrhyw ymgynghori o gwbl wedi bod â phobl Garndolbenmaen ar y newidiadau hyn i’r gwasanaeth bws T2.

Rhagor o fanylion

Gellid datrys y rhan fwyaf o'r problemau hyn heb fawr ddim cost ychwanegol petai'r gwasanaeth T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen. Dim ond dargyfeiriad o 8 munud ychwanegol fyddai ei angen (llai na dwy filltir ychwanegol) pe bai’r holl fysiau T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen. Byddai'r mân wariant ychwanegol hwn yn cael ei liniaru trwy osgoi gwariant cyhoeddus ar dalu am deithiau tacsi i fyfyrwyr ysgol a'r bobl hynny ar incwm isel sy'n teithio i Ysbyty Gwynedd ar gyfer apwyntiadau. Byddai hefyd yn adfer gwasanaeth bws defnyddiol rhwng Garndolbenmaen a Chricieth sydd bellach wedi’i gynnwys yn llwybr bws newydd y T2.
Mae’r cynnig ymarferol hwn i ddatrys y broblem eisoes wedi’i awgrymu gan Steve Churchman, y cynghorydd lleol, a byddai’n ddefnyddiol pe bai unigolion eraill hefyd yn cefnogi’r ymgyrch hon i gadw’r gwasanaeth T2 ar gyfer pobl Garndolbenmaen.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

282 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi casglu 139 llofnod ar bapur.