Deiseb a wrthodwyd Diddymu yr enw ‘Wales’ a gwneud ‘CYMRU’ yr unig enw ar ein gwlad.

I ddechrau cychwyn - enw wedi ei orfodi ar Gymru yw Wales sydd yn ei hanfod ddim yn air Cymraeg o gwbl. Mae’r byd yn gwybod am Wales oherwydd ei gysylltiad Saesnig ond does fawr neb wedi clywed am Gymru a bod gennyn ni iaith a diwylliant unigryw ein hunain a wnelo ddim o gwbl a LLoegr a’i hiaith Saesneg. Gora po gynta i’r byd sylweddoli mae CYMRU yw enw hanesyddol ein gwlad a nid Wales.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi