Deiseb a gaewyd Diwygio deddfwriaeth yng Nghymru i alinio â Lloegr mewn perthynas â chynyddu’r dreth gyngor yn ormodol
Yn Lloegr mae’n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu a yw’r cynnydd maent yn bwriadu ei gyflwyno i’r dreth gyngor yn ‘ormodol’. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn pennu trothwyon ar gyfer pa mor ormodol yw cynnydd yn y dreth, a elwir yn ‘egwyddorion refferendwm’. Ar hyn o bryd gall cynghorau lleol yng Nghymru gynyddu’r dreth gyngor hyd at 10% y flwyddyn heb refferendwm lleol, ac mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi gwneud hyn yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae llawer yn bwriadu gwneud hyn eto gan roi baich ariannol enfawr ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.
Rhagor o fanylion
Mae’r papur briffio hwn https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn05682/ yn egluro’r system o gael refferendwm lleol ar gyfer cynnydd ‘gormodol’ i’r dreth gyngor, sydd wedi bod ar waith yn Lloegr ers blwyddyn ariannol 2012/13. Mae’n egluro’r cefndir cyfreithiol i’r system, gan gynnwys y gweithdrefnau, amseru, a chostau ar gyfer refferenda, a sut mae unrhyw gynnydd i’r dreth gyngor yn cael ei gyflwyno gan awdurdodau lleol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon