Deiseb a gaewyd Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd

Ni all pawb fforddio teithio i Wrecsam.
Ni all pawb fforddio talu'n breifat i fynd i glinig menopos.
Nid oes gan bawb yr amser i fynd i Wrecsam. Efallai eu bod yn gofalu am blant ac aelodau o'r teulu ac ati.
Dylai pawb gael y dewis.
Dylai’r gwasanaeth fod ar garreg ein drws yn Ysbyty Gwynedd a dylid cynnig mwy o wasanaethau arbenigol yn lleol i bobl Gogledd Cymru gan gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i feddygon teulu, gynaecolegwyr, ymarferwyr a chyflogwyr ynghylch y menopos a manteision HRT.

Rhagor o fanylion

Mae’r bwrdd iechyd yn disgwyl i ferched deithio i’r clinig menopos GIG agosaf yn Wrecsam, gan eu bod yn torri’n ôl ar yr ychydig gymorth sydd gennym yn Ysbyty Gwynedd. Nid yw hyn yn dderbyniol, yn enwedig yn yr argyfwng ariannol presennol.
Mae angen adnoddau ar garreg ein drws yn lleol i ni; nid yw’r bwrdd iechyd yn bodloni gofynion menywod sy’n dioddef y trafferthion, y gofid, y boen, a’r anghysur ynghyd â’r holl symptomau eraill cysylltiedig â’r menopos a’r effaith ar eu teulu.
Rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn adnoddau a gwasanaethau menopos yng Nghymru.
Mae merched yn cael trafferth cadw eu swyddi ac ymgymryd weithiau â’u cyfrifoldebau gofalu. Mae merched yn gadael eu gwaith gan na allant ymdopi â rhai o'r symptomau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,347 llofnod

Dangos ar fap

10,000