Deiseb a wrthodwyd Gwahardd Addysgu Chwaraeon mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yng Nghymru
Mae addysgu chwaraeon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn wastraff aruthrol o arian cyhoeddus. Byddai'n well treulio amser ac adnoddau addysgu ar bynciau eraill fel ieithoedd, gwyddoniaeth a'r dyniaethau.
At hynny, os yw plentyn eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon gall wneud hynny y tu allan i amser ysgol, er enghraifft mewn clwb pêl-droed lleol. Manteision hyn yw a) peidio â chymryd amser addysgu gwerthfawr a b) peidio â defnyddio adnoddau addysgu gwerthfawr.
Nid yw’n briodol addysgu chwaraeon mewn ysgolion yn yr 21ain Ganrif.
Rhagor o fanylion
At hynny, mae chwaraeon yn yr ysgol yn annog yr ymddygiadau negyddol canlynol:
1. Ymddygiad ymosodol.
2. Ymddygiad sarhaus.
3. Bwlio.
Mae hefyd yn tynnu sylw oddi wrth bynciau eraill mwy gwerthfawr ac nid yw o unrhyw fudd o gwbl i'r rhai sy'n gadael yr ysgol yn eu dewisiadau gyrfa (ac eithrio'r lleiafrif bach sydd am fod yn athrawon Addysg Gorfforol neu'n hyfforddwyr campfa).
Yn olaf, mae chwaraeon mewn ysgolion yn gwastraffu amser addysgu gwerthfawr ac adnoddau y byddai'n well eu defnyddio ar gyfer pynciau eraill a fyddai o fudd i'r rhai sy'n gadael yr ysgol.
Nid oes angen mwy o athrawon Addysg Gorfforol na hyfforddwyr campfa yng Nghymru.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi