Deiseb a gaewyd Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd
* Gwella ansawdd aer mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau gofal cymdeithasol drwy fynd i'r afael ag awyru, hidlo aer a sterileiddio;
* Ailgyflwyno gwisgo masgiau fel mater o drefn yn y lleoliadau hynny (yn unol ag argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd ar 20 Rhag 2023), yn enwedig masgiau anadlol ;
* Ailgyflwyno profion Covid fel mater o drefn - mae'n asymptomatig;
* Sicrhau bod llawlyfrau staff yn cynnwys atal heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr yn llawn;
* Darparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd am ddefnyddio masgiau anadlol a hidlo aer HEPA yn erbyn heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr.
Rhagor o fanylion
Caiff heintiau fel Covid, ffliw, RSV, y frech goch a TB eu lledaenu drwy anadlu erosolau bach a gludir yn yr awyr fel mwg. Ffyrdd allweddol o'i atal yw gwella ansawdd aer a gwisgo masgiau anadlol sy'n ffitio'n dda. Mae ailheintio yn cynyddu'r risg o niwed difrifol hirdymor posibl i unrhyw un, i'r ymennydd, y galon, y system imiwnedd, ac ati. Gweithwyr gofal sydd ar frig y gynghrair Covid hir. Mae salwch dro ar ôl tro a cholli swyddi yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau. Dangoswyd bod cyfradd yr heintiau Covid a gafwyd yn yr ysbyty yn uwch nag yn y gymuned. Yn aml mae'n rhaid i bobl sy'n agored i niwed yn glinigol ddefnyddio mesurau gofal ond maent yn canslo apwyntiadau iechyd hanfodol. Mae trosglwyddo yn aml yn asymptomatig. Nid yw Covid yn dymhorol. Felly mae profion rheolaidd yn hanfodol. Mae yna lawer o ddulliau i ddiogelu iechyd. Dim ond un sy'n cael ei ddefnyddio: brechu - nid yw ar gael i lawer, gan gynnwys rhai pobl sy'n agored i niwed yn glinigol.
Rydym wedi cymryd y camau a ganlyn:
*cwrdd â swyddogion arweiniol ac wedi gohebu â hwy ynghylch masgiau, awyru, brechu a risg glinigol
* cyflwyno ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon