Deiseb a wrthodwyd Gwneud pob theatr yng Nghymru yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn yn y blaen, y canol a’r cefn
Yn anffodus, nid yw theatrau yn ddigon hygyrch i bobl anabl ac nid oes digon o seddau addas i bobl anabl, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio cadair olwyn. Mae hyn wedi effeithio ar ffrindiau sy’n defnyddio cadair olwyn ac eraill sy’n drwm eu clyw ac yn fyr eu golwg. Dylai pob lefel o bob theatr fod yn hygyrch er mwyn sicrhau mynediad teg i bawb.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi