Deiseb Cynnwys dinasyddion Cymru yn llawn mewn penderfyniadau am bolisïau sero net ac arwain drwy esiampl

Mae penderfyniadau polisi i leihau allyriadau carbon yn cael eu gwneud mewn ymateb i newid hinsawdd. Bydd y rhain yn effeithio ar p’un a fyddwn yn defnyddio ceir i deithio yn y dyfodol, ac yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded, tra’n ei gwneud yn fwy costus ac anodd i fodurwyr. Mae hon yn her sylweddol i’r rhai sy’n byw mewn ardal wledig ac sydd angen teithio i'r gwaith, apwyntiadau meddygol, cefnogi ac ymweld â theulu a ffrindiau, heb sôn am y rhai sy’n anabl neu'n dioddef o iechyd/symudedd gwael.

Rhagor o fanylion

Tra rydym yn cael ein cosbi am ddefnyddio ein ceir drwy gostau cynyddol, rwy’n galw ar yr holl weision cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru a’r Senedd i arwain drwy esiampl a cherdded, beicio neu gymryd trafnidiaeth gyhoeddus. Yn amlwg bydd eithriadau, er enghraifft pan nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, neu i sicrhau diogelwch unigolion.

Rydym yn galw am y canlynol:
1. gwelliant o ran ymgysylltu ac o ran cynnwys pobl mewn polisïau mor bwysig
2. dylai cynrychiolwyr etholedig a gweithwyr sector cyhoeddus arwain drwy esiampl, gyda gofyniad arnynt i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio am resymau gwaith.

Rydym yn eich annog i lofnodi’r ddeiseb hon heddiw! Gadewch inni sicrhau bod y rhai sy’n ein cynrychioli yn deall y realiti o fyw bywyd o ddydd i ddydd tra bod amrywiaeth o fesurau gwrth-geir a pholisïau sero net annemocrataidd yn cael eu gorfodi heb unrhyw feddwl nac ystyriaeth o’r effaith negyddol ar ein bywydau pob dydd a’n bywydau yn y dyfodol, gan ddefnyddio’r arian rydym wedi gweithio’n galed i’w ennill.

Llofnodi’r ddeiseb hon

158 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon