Deiseb Darparu triniaeth Clefyd Ymbelydredd y Pelfis i gleifion canser

Mae canser mor gyffredin bydd mwy nag un o bob dau o bobl yn cael canser ar ryw adeg yn eu bywyd. Radiotherapi yw un o'r prif driniaethau ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau. Gall trin canser yn llwyddiannus achosi niwed i lawer o organau cyfagos, yn aml fisoedd, blynyddoedd neu ddegawdau yn ddiweddarach.
Mae defnyddio ymbelydredd i drin y pelfis yn gallu cael effeithiau yn y tymor hwy sy’n achosi symptomau gwanychol megis niwed i'r bledren, y coluddyn a'r organau atgenhedlu. Gan fod y symptomau mor wanychol, mae angen triniaeth.
Nid oes dim arbenigwyr yng Nghymru sy’n trin Clefyd Ymbelydredd y Pelfis, ond bydd 1 o bob 4 claf sy’n cael radiotherapi pelfig yn dioddef o’r clefyd hwn. Mae Cymdeithas Clefyd Ymbelydredd y Pelfis yn ceisio helpu i gael triniaeth i bob claf canser pelfig yn y DU. Nid oes gan Gymru ddim ar hyn o bryd.

Rhagor o fanylion

Rwyf am i Gymru ddarparu’r driniaeth hon i mi ac i gleifion canser eraill sy’n dioddef Clefyd Ymbelydredd y Pelfis, i drin y symptomau gwanychol, poenus hyn, oherwydd y niwed y mae ymbelydredd yn ei wneud i’r esgyrn, y coluddyn, y bledren a’r organau atgenhedlu yn dilyn radiotherapi. Mae angen y driniaeth hon arnom fel y gallwn ni fyw, yn hytrach na bodoli yn unig - gartref, mewn poen, ar y toiled.

Llofnodi’r ddeiseb hon

140 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon