Deiseb Lleihau ein cyllideb newid hinsawdd a defnyddio'r arian i ddarparu mwy o gyllideb ar gyfer pobl agored i niwed
Mae gormod o arian yn cael ei wario mewn gwlad mor fach fel ein gwlad ni ar newid hinsawdd o gymharu â gwledydd mwy.
Gallem ostwng ein costau hinsawdd gan barhau i wneud lles i'r blaned.
Gall yr arian y gallem ei arbed helpu i ddatrys rhai o broblemau mawr ein gwlad ein hunain fel helpu i gynnig mwy o ffyrdd i'r rhai mwyaf agored i niwed fyw eu bywyd bob dydd a helpu gyda phrinder tai a'r cynnydd mewn rhent a biliau i'r rhai mwyaf agored i niwed.
Rhagor o fanylion
Nid yw problemau newid hinsawdd yng Nghymru yn agos at yr hyn a welir yn Llundain heb sôn am Loegr gyfan.
Mae cyllideb lwfans tai Cymru ar ei hôl hi yn y farchnad bresennol.
Nid gwlad trydydd byd ydym ni ac ni ddylai unrhyw deulu fod ar lwgu.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd