Deiseb a gwblhawyd Ailgyflwyno'r Cynllun Hawl i Brynu

Byddai ailgyflwyno’r cynllun Hawl i Brynu yng Nghymru yn ysgogi twf economaidd ac yn grymuso dinasyddion. Trwy roi cyfle i unigolion brynu eu cartrefi am bris gostyngol, mae'r cynllun yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb ariannol. Byddai hyn yn arwain at fwy o fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw a gwella eiddo, gan adfywio cymunedau yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Gallai'r cynllun gyfrannu at farchnad dai fwy deinamig, gan ddenu darpar brynwyr ac annog cydbwysedd iachach rhwng rhentu a pherchnogi. Yn y pen draw, gallai’r cynllun Hawl i Brynu fod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol, i unigolion ac o ran y sefyllfa dai yn gyffredinol yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

259 llofnod

Dangos ar fap

10,000