Deiseb Atal Llywodraeth Cymru rhag defnyddio Phil Jones Associates (PJA) i adolygu’r cynllun 20mya.
Roedd PJA yn allweddol wrth roi cyngor ar y cynllun 20mya. Maent wedi bod yn gefnogwyr ers amser maith i’r lobi teithio llesol / seiclo. Rwyf o’r farn bod gofyn i PJA adolygu’r cynllun hynod amhoblogaidd yn wrthdaro amlwg mewn buddiannau. Ni allant roi barn ddiduedd o’r effeithiau negyddol y mae hyn yn ei chael ar fodurwyr, a bod yn gydnaws â’r corff enfawr o wrthwynebiadau cyhoeddus, fel y tystia’r ddeiseb yn gwrthwynebu 20mya, wnaeth ddenu dros 467,000 o lofnodion. Rhaid i gorff annibynnol adolygu hyn.
Rhagor o fanylion
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd