Deiseb Dylid dynodi Dyffryn Tywi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn cyflwyno deiseb i’r Senedd i ddynodi Dyffryn Tywi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ar frys.
Byddai’r dynodiad hwn yn unol â'r penderfyniad diweddar (ym mis Tachwedd 2023) i ddynodi pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn y DU yn "Dirweddau Cenedlaethol."
Mae'r bygythiad sydd ar fin digwydd yn sgil peilonau a thyrbinau gwynt yn golygu bod angen ei ddynodi ar fyrder i ddiogelu ei gyfanrwydd ac i ddiogelu a chadw ei arwyddocâd diwylliannol, ei arwyddocâd hanesyddol a’i arwyddocâd ecolegol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodweddu Dyffryn Tywi fel man sydd â “Chymeriad Tirwedd Cenedlaethol” ag iddo nodweddion unigryw sy'n gwneud y dyffryn yn “eithriadol o ran ei olygfeydd a’i ecoleg”.
Rhagor o fanylion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi defnydd y dyffryn fel coridor trafnidiaeth ers y cynoesoedd, ac fel ardal amaethyddol arwyddocaol, ac wedi nodi ei harwyddocâd hanesyddol (sef ardal sefydlog sydd ag ymdeimlad hir o hanes, fel y tystir gan y “gadwyn o gaerau, o gestyll carreg i domennydd pridd syml, bryngaerau cynhanesyddol a gwersylloedd Rhufeinig” sy'n britho Dyffryn Tywi).
Nododd Cyfoeth Naturiol Cymru fod y rhain i gyd yn cyfuno i ffurfio'r dirwedd 'hardd' a nodweddiadol, sef Dyffryn Tywi.
Mae nifer o grantiau ariannu wedi'u dyfarnu i gydnabod cymeriad unigryw Dyffryn Tywi.
Mae ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn gwerthfawrogi ac yn caru Dyffryn Tywi.
Mae Dyffryn Tywi yn dirwedd naturiol hardd ac unigryw. Mae angen eich help chi ar Ddyffryn Tywi!
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd