Deiseb Angen cymorth i ariannu a chydlynu’r gwaith o sefydlu cofeb yng Nghymru i “holl ddioddefwyr hil-laddiadau”

Nid oes gan Gymru gofeb genedlaethol i'r Holocost, nac i ddioddefwyr pob hil-laddiad.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen trawsbleidiol gyda’r nod o greu cofeb yng Nghymru i holl ddioddefwyr hil-laddiadau ledled y byd.
Mae ar bobl Cymru angen rhywle lle gallant ymgynnull i gofio’r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol ledled y byd.
Cydsyniad yw cadw’n ddistaw – byth eto!

Rhagor o fanylion

Rhaid inni atgoffa cenedlaethau’r dyfodol mai pobl gyffredin oedd y rhai a gafodd eu herlid a’u llofruddio oherwydd eu crefydd neu oherwydd y gymuned yr oeddent yn perthyn iddi.
Pobl gyffredin oedd y rhai a wnaeth ddim byd ac a dderbyniodd propaganda atgas.
Pobl gyffredin oedd y rhai a ddaeth yn filwyr neu'n blismyn a ddaliai ddioddefwyr. Pobl gyffredin oedd y cymdogion a gariai fachetes yn Rwanda. Pobl gyffredin oedd y rhai a ddaeth yn warchodwyr mewn gwersyll-garcharau yn Bosnia. Pobl gyffredin oedd y rhai a lywiodd y dronau angau yn Gaza!
Mae gennym ni, fel unigolion, gyfle i ddewis gwrthsefyll casineb a rhagfarn. Gallwn ni i gyd herio naratifau cynhennus sy’n ceisio darnio ein cymunedau a phardduo grwpiau penodol o unigolion.
Gall hil-laddiad ddigwydd mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Rhaid inni fod yn wyliadwrus bob amser, a rhaid inni fod yn barod i sefyll dros ddynoliaeth.
Mae cymaint o ddinistr yn y byd, nid oherwydd gweithgarwch dihirod, ond oherwydd yr holl bobl dda sy'n gweld yr anfadrwydd ond yn gwneud dim i'w wrthwynebu!

Llofnodi’r ddeiseb hon

8 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon