Deiseb Deddf Iaith gryfach i ddiogelu dyfodol ein hiaith frodorol

Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi gosod targed i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw'r Gymraeg yn ffynnu – mae'n marw. Mae ystadegau'r 3 Chyfrifiad diwethaf yn brawf diamheuol: > 21% , > 19% , > 17.8%.
Yn ei bro, yn arbennig, mae'r Gymraeg yn dadfeilio, gyda niferoedd mawr o siaradwyr yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn lleihau.

Rhagor o fanylion

Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i basio Deddf Iaith gryfach sy’n berthnasol i’r sector preifat, fel y gwelir yng Ngwlad Belg a’r Swistir.
At hynny, dylai'r Saesneg barhau i gael ei thrin yn gyfartal ac ni ddylai ei statws newid.
Os yw Llafur Cymru o ddifri am gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr – yn hytrach na 1 miliwn o bobl sy'n gallu dweud “bore da” – ni ellir dadlau yn erbyn cael deddfwriaeth Gymraeg gryfach er mwyn cyrraedd y targed hwn.

https://www.llyw.cymru/y-gymraeg-yn-ol-nodweddion-y-boblogaeth-cyfrifiad-2021-html
https://www.llyw.cymru/y-gymraeg-yng-nghymru-cyfrifiad-2021-html
https://www.llyw.cymru/data-am-y-gymraeg-or-arolwg-blynyddol-or-boblogaeth-2021
https://www.llyw.cymru/data-am-y-gymraeg-or-arolwg-blynyddol-or-boblogaeth-2022

Llofnodi’r ddeiseb hon

15 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon