Deiseb Annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y defnydd o BMI yn Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae dull presennol Cymru o bwyso plant mewn ystafelloedd dosbarth a dibynnu ar BMI ar gyfer asesiadau iechyd yn ddiffygiol. Ni all BMI wahaniaethu rhwng cyhyrau a braster na rhoi cyfrif am amrywiadau twf. Mae arferion gorau rhyngwladol yn blaenoriaethu asesiadau iechyd cynhwysfawr dros BMI. Mae’r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn creu dull mwy effeithiol a chyfannol o asesu iechyd plant, gan hybu delweddau cadarnhaol o’r corff a ffyrdd iachach o fyw.

Rhagor o fanylion

Mae angen ail-werthuso dibyniaeth Cymru ar BMI ar gyfer asesiadau iechyd plant. Mae BMI, sy'n annigonol o ran gwahaniaethu rhwng cyhyrau a braster, yn anwybyddu amrywiadau twf unigol. Mae astudiaethau'n argymell dewisiadau eraill fel y gymhareb canol-i-daldra ar gyfer asesiadau mwy cywir (McCarthy et al., 2006; Ashwell a Gibson, 2016).
Yn fyd-eang, mae'r newid o fodelau sy’n canolbwyntio ar BMI i asesiadau iechyd cynhwysfawr yn amlwg mewn gwledydd fel Portiwgal, sy'n cyd-fynd â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (Gouveia et al., 2019; Sefydliad Iechyd y Byd, 2021). Mae cofleidio dewisiadau amgen sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn hyrwyddo delweddau corff cadarnhaol ac yn blaenoriaethu lles yn gyffredinol dros bwysau yn unig (Daniels, 2009).
Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad Mynediad i'r Ysgol Rhaglen Plant Iach Cymru a Rhaglen Mesur Plant Cymru. Trwy ymgorffori dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn asesiadau iechyd plant, gall Cymru arloesi gyda dull mwy cywir a chynhwysfawr a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan roi blaenoriaeth i les ei hieuenctid.

Llofnodi’r ddeiseb hon

56 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon