Deiseb a gwblhawyd Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a’r gostyngiadau arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y cynnig i’w gwneud yn ‘ofynnol plannu 10% o orchudd coed a throi 10% o dir cynhyrchiol yn dir cynefin yn arwain at ostyngiad amlwg o 20% a mwy yn y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, colli swyddi a throsiant cyffredinol o fusnesau, a hynny mewn diwydiant sydd eisoes mewn cyni. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith enfawr ar fusnesau gwledig, ar gymunedau, ac ar safonau byw cyffredinol teuluoedd.
Bydd pob gweithred sylfaenol yn golygu cynnydd o ran llafur/gwaith papur a chostau i alwedigaeth sydd eisoes dan straen, ond ni fydd taliadau uwch i gyd-fynd â hyn.
Anymarferol!

Rhagor o fanylion

Yn ôl amcanestyniadau’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol:
Bydd gostyngiad o 10.8%, neu 122,200, yn nifer yr unedau da byw,
Caiff 11%, neu dros 5,500, o swyddi eu colli,
Bydd allbwn o’r sector yn dioddef ergyd gwerth £125.3 miliwn.
Bydd busnesau fferm yn colli £199 miliwn o’u hincwm.
Nid yw'n gwneud nemor ddim ar gyfer diogelwch bwyd y wlad, na dyfodol y diwydiant amaethyddol.
Mae llawer iawn o waith amgylcheddol da wedi cael ei wneud gan ffermwyr o dan gynlluniau blaenorol, ond mae hyn mewn perygl o gael ei golli neu ei wrthwneud, a hynny oherwydd y ffaith seml y bydd ymuno â'r cynllun hwn yn arwain at ostyngiad ariannol ar adeg o gynnydd mewn costau mewnbynnau a threuliau.
Os na chaiff ei newid, bydd y cynllun yn achosi i lawer o ffermydd gau, yn enwedig ffermydd newydd a ffermydd â thenantiaid.
Mae llawer o'r gweithredoedd sylfaenol yn cyfeirio at y targedau 'Sero Net', ond am ba gost?
Nid yw gwlad sy’n methu â chynhyrchu ei bwyd ei hun yn 'gynaliadwy'! Nid yw'r cynllun hwn yn gynaliadwy!

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2023-12/effeithiau-economaidd-posibl-y-cynllun-canlyniadau-modelu-gweithredoedd-sylfaenol-y-cynllun-ffermio-cynaliadwy-cam-4.pdf

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

15,970 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl

Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl