Deiseb Ystyried opsiynau i drosglwyddo perchnogaeth asedau hanesyddol o Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru
Ystad y Goron sy’n berchen ar gestyll Caernarfon, Harlech a Dinbych ac Abaty Tyndyrn. Dyma rai o adeiladau eiconig Cymru sydd â chysylltiad agos â digwyddiadau yn hanes y wlad, yn enwedig Castell Harlech ac Owain Glyndŵr.
Mae’r adeiladau hyn yn bwysig i’n hunaniaeth genedlaethol a’n cof cenedlaethol. Dylai Gweinidogion Cymru ystyried opsiynau i drosglwyddo perchnogaeth yr adeiladau hyn o Ystad y Goron yn ôl i bobl Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth i CADW yn dangos mai Ystad y Goron sy’n berchen ar gestyll Caernarfon, Harlech a Dinbych ac Abaty Tyndyrn.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd