Deiseb Dylid gwrthdroi penderfyniad Traws Cymru i roi’r gorau i alw yng ngorsaf Rhiwabon ac Ysbyty Maelor ar y gwasanaeth T3.
Ar 1 Chwefror, cyhoeddodd Traws Cymru na fydd ei wasanaeth bws T3 rhwng Wrecsam ac Abermaw yn galw yng ngorsaf Rhiwabon nac Ysbyty Maelor o 12 Chwefror ymlaen. Dim ond 12 diwrnod o rybudd a roddwyd cyn rhoi’r gorau’n llwyr i wasanaethu pentref yr oedd wedi’i gysylltu drwy reilffordd yn flaenorol ag Abermaw a rhoi’r gorau i gysylltiad â phrif ysbyty’r ardal ar gyfer nifer fawr o drigolion Gogledd Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae Llywodraeth Cymru yn noddi gwasanaeth Traws Cymru. Gwnaeth y Senedd ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ ar 29 Ebrill 2019, ond mae’r penderfyniad hwn gan Traws Cymru yn mynd i atal nifer o bobl rhag gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd