Deiseb Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru! Gwylio aderyn du neu fronfraith yn chwilio am fwydod a thrychfilod ar laswellt artiffisial yw un o’r golygfeydd tristaf ym myd natur!

Ni all unrhyw bryfed fyw yno ac ni chynhyrchir hadau na blodau ble y caiff ei ddefnyddio, ac felly mae’n cael gwared ar y ffynhonnell fwyd ar gyfer adar, draenogod, chwistlod, llyffantod, ystlumod, tyrchod daear, gloÿnnod byw, gwenyn a llawer o rywogaethau eraill. Mae hyn yn ychwanegol at y ffaith nad yw glaswellt artiffisial yn amsugno carbon deuocsid, ac yn y pen draw bydd yn creu rhagor o sbwriel plastig na fydd yn pydru am filoedd o flynyddoedd.

Rhagor o fanylion

Wrth i’n cefn gwlad gael ei drawsnewid fwyfwy ar gyfer ffermio dwys, mae ein bywyd gwyllt yng Nghymru yn dod yn fwyfwy dibynnol ar ein gerddi i gael bwyd. Roedd yr adroddiad arloesol "Sefyllfa Byd Natur" yn ein rhybuddio’n glir bod angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau os ydym am wrthdroi'r gostyngiad dramatig sydd o ran ein bywyd gwyllt.
Mae pryderon gwirioneddol iawn ynghylch yr effaith negyddol y bydd defnyddio glaswellt plastig yn ei chael o ran llygredd micro-blastig a’r perygl o lifogydd sydyn yn y dyfodol.

Bydd y gweithgynhyrchwyr yn dadlau nad oes angen dyfrio na defnyddio gwrtaith cemegol gyda glaswellt artiffisial, ond anaml y bydd angen dyfrio lawnt yng Nghymru beth bynnag, ac mae gwrtaith organig y gellir ei ddefnyddio, a gellir gofalu am lawntiau gyda pheiriannau torri gwair trydan sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy.

Nid oes gennyf amheuaeth, unwaith y bydd pobl yn clywed y ffeithiau llawn am y difrod y mae glaswellt artiffisial yn ei wneud i’n bywyd gwyllt yng Nghymru, y byddent yn dewis garddio’n gynaliadwy. Unwaith eto, gallai Cymru arwain y ffordd ar gyfer gwaharddiadau yn y dyfodol yng ngweddill y DU.

Llofnodi’r ddeiseb hon

58 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon