Deiseb a gwblhawyd Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision
Mae Cymru yn adnabyddus drwy’r byd fel “Gwlad y Gân”, ac mae gennym ddiwylliant cyfoethog o gerddoriaeth a pherfformio sy’n cael ei gydnabod a’i ddathlu yn rhyngwladol. Dylai Cymru gael y cyfle i gael ei chynrychioli yn yr Eurovision fel gwlad yn ei hun. Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda S4C a chyrff perthnasol eraill i baratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision.
Rhagor o fanylion
Y gofyniad er mwyn cystadlu yn yr Eurovision yw bod yn aelod gweithredol o’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU). Mae S4C eisoes yn aelod gweithredol o’r EBU. Mae Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn Jeux Sans Frontières, Eurovision Choir a’r Junior Eurovision Song Contest.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon