Deiseb a gaewyd Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Mae Diwygio ADY Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae nifer o adroddiadau am awdurdodau lleol yn cyhoeddi ymgynghoriadau neu gyllidebau gwirioneddol gyda thoriadau enfawr i gyllideb addysg. Mae Jeremy Miles wedi addo buddsoddi mewn addysg. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd i aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod safonau addysg Cymru wedi gostwng. Addysg ein plant yw’r buddsoddiad gorau mewn cyfiawnder cymdeithasol ac economi iach.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl
Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl