Deiseb Dileu cynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol

Nid yw sylfaen dystiolaeth Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i gyfiawnhau’r newidiadau arfaethedig, a fydd yn tarfu’n sylweddol ar ein hysgolion ac ar y sectorau amaethyddol a thwristiaeth yng Nghymru.
Credwn nad nawr yw’r amser i newid strwythur y flwyddyn ysgol a gwneud y gwyliau haf yn fyrrach. Mae’r sector addysg yng Nghymru wedi wynebu newidiadau sylweddol, sydd wedi cael effaith fawr ar lwythi gwaith a llesiant ein gweithlu.

Rhagor o fanylion

Mae’r gwyliau haf yng Nghymru ymhlith y byrraf yn Ewrop. Mae myfyrwyr ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn yr Eidal, Portiwgal, a Sbaen yn elwa o wyliau haf hir o 12 i 13 wythnos. Mae disgyblion yn Sweden yn cael 10 wythnos o wyliau haf, 8 wythnos yn Ffrainc a Norwy, a 7 wythnos yn yr Almaen. Perfformiodd yr holl wledydd hyn yn well na Chymru yn y canlyniadau PISA diweddaraf.
At hyn, nid yw’r cynlluniau’n cymryd lle cynnig cymorth digonol i blant difreintiedig a’u teuluoedd, megis cyfleoedd i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau a gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau creadigol sydd wedi’u hariannu.

https://www.oecd-ilibrary.org/sites/9149c2f5-en/index.html?itemId=/content/component/9149c2f5-en

Llofnodi’r ddeiseb hon

6,508 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon