Deiseb Cefnogi Ffermwyr Cymru a sicrhau bod ffermwyr yn gallu parhau â’u gwaith o fwydo’r genedl.

Mae ffermwyr Cymru wedi bod yn ffermio cefn gwlad Cymru ers cannoedd o genedlaethau, yn cynhyrchu bwyd o’r safon uchaf i fwydo’r genedl, ac yn ffermio gyda’r amgylchedd i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn ffynnu. Mae Llywodraeth bresennol Cymru yn rhoi polisïau ar waith a fydd yn difrodi’r diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru. Mae ffermwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gadael yn ddiymgeledd, heb obaith, ac yn wynebu dyfodol llwm os na chaiff polisïau presennol eu newid a’u gwella’n sylweddol.

Dylid cefnogi ffermwyr Cymru drwy wrando arnyn nhw a thrwy wrthdroi’r polisïau presennol a grybwyllwyd.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi rheolau anghynialadwy ar ffermwyr, mae’n gorfodi llawer o ffermwyr allan o fusnes, ac mae’n gwrthod gwrando ar ffermwyr, eu gofidiau a’u pryderon am y dyfodol.
Mae Parthau Perygl Nitradau Cymru gyfan yn rhoi costau diangen ychwanegol ar fusnesau ffermio, heb unrhyw dystiolaeth y byddant yn gwella’r canlyniadau, sef rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn mynnu yn byddant yn ei wneud, a hynny ar sail ychydig tystiolaeth, os o gwbl.
Mae’r Llywodraeth yn defnyddio rheoliadau TB fel arf gwleidyddol ac nid yw’n defnyddio’r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i ddileu’r clefyd erchyll hwn. Mae’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth o Loegr yn dangos yn glir bod angen dull unedig a bod difa moch daear yn gweithio a’i bod yn gweithio dros y ffin.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi dros 5,500 o swyddi uniongyrchol mewn perygl o gael eu colli oherwydd y polisi hwn, yn ôl cyfaddefiad y Llywodraeth ei hun, ond nid yw’n sôn am hyn wrth y cyhoedd.
Am bob £1 sy’n cael ei gwario ar amaethyddiaeth, mae £9 yn dod yn ôl i'r economi.

Llofnodi’r ddeiseb hon

199 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon