Deiseb Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion
Caniataodd School Beat Cymru i 68 o swyddogion heddlu ysgolion o’r pedwar heddlu yng Nghymru gyflwyno gwersi ar gamddefnyddio sylweddau, diogelwch personol, materion diogelu ac ymddygiad.
Ond mae Llywodraeth Cymru am roi'r gorau i ariannu'r cynllun er mwyn arbed £2m y flwyddyn o fis Ebrill ymlaen.
Rhagor o fanylion
Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar adnoddau ysgolion a’r heddlu, sydd eisoes dan bwysau sylweddol. Yn ogystal ag addysgu disgyblion, mae swyddogion heddlu ysgolion yn ymateb i helyntion mewn ysgolion. Maent wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth benodol i ymdrin â phroblemau mewn ysgolion ac wedi meithrin perthynas waith dda gyda staff a disgyblion. Heb swyddog heddlu penodedig, bydd yn rhaid i ysgolion ffonio 101, a gallai hynny hefyd orlethu’r ganolfan gyfathrebu a rhoi pwysau ychwanegol ar swyddogion ymateb cyffredinol. Bydda hyn yn lleihau ymhellach yr adnoddau i ymateb i alwadau eraill. Mae helyntion yn codi’n rheolaidd mewn ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ac mae cael swyddog penodedig yn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon o ymdrin â sefyllfaoedd o'r fath.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd