Deiseb a gwblhawyd Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol

Galwn ar Lywodraeth Cymru i dyfu gwariant ar sefydliadau sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol - ac nid torri’r cyllid o 10.5 - 22.3%
Mae’r sefydliadau yma yn gwarchod gwaddol hanes a diwylliant ein cenedl, yn casglu, yn rhoi ar gadw, ac yn ei gyflwyno i bawb sy’n byw yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw.

Rhagor o fanylion

O ystyried bod buddsoddiad yn y sector o £1 yn dod â thwf o £5 i’r economi, nid yw’r arbedion o 0.02% i’r cyllideb cenedlaethol yn gwneud synnwyr.
Gyda thoriadau llym i gyllidebau ysgolion, a chymdeithas yng Nghymru yn wynebu heriau tlodi a diffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal, mae cyn bwysiced ag erioed dal gafael ar ganolfannau sy’n cynnal a thyfu ein gwlad a’n cymunedau, gan ganiatau i’r cenedlaethau a ddaw adeiladu ar seiliau cadarn llwyddiannau’r gorffennol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

12,075 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y ddeiseb hon ar 26 Mehefin 2024

Gallwch chi wylio’r ddadl ar-lein yn senedd.tv