Deiseb Ymchwilio i weld a oes modd diwygio’r polisi rhoi organau i gyfyngu ar ymyrraeth y teulu

Newidiwyd y gyfraith rhoi organau o bolisi optio i mewn i bolisi optio allan yn 2015. Cafodd hyn ei gyhoeddi fel newid chwyldroadol a fyddai'n arwain at gynnydd mawr yn nifer y trawsblaniadau sy'n digwydd. Achosodd hyn gynnydd o 6 y cant a gostyngiad yn nifer y trawsblaniadau y flwyddyn ganlynol.
Mae’r system bresennol yn tybio nad ydych yn gwrthwynebu i drawsblannu organau yn hytrach na RHOI caniatâd ar gyfer trawsblaniad organ, sy'n gadael eich teulu i wneud y penderfyniad ar eich rhan, tra'n galaru.

Rhagor o fanylion

Mae 38 y cant o deuluoedd yn y sefyllfa hon yn gwrthod, gan arwain at golli bron i 3400 o gyfleoedd trawsblannu bob blwyddyn. Roedd 33 y cant o'r rhain am nad oedd y pwnc byth wedi codi. Mae hyn yn arwain at dros 450 o bobl yn marw bob blwyddyn yn aros am drawsblaniad a all achub bywyd.
Arbedwch ein teuluoedd rhag gorfod gwneud y penderfyniad hwn ar adeg anodd a chyflwyno system galed i optio allan oni bai bod claf wedi dogfennu dymuniadau crefyddol neu bersonol i beidio â rhoi

Cyfeiriadau:
https://www.organdonation.nhs.uk/uk-laws/organ-donation-law-in-wales/
https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC7496553
https://www.organdonation.nhs.uk/uk-laws/organ-donation-law-in-england/
https://www.organdonation.nhs.uk/get-involved/news/hundreds-of-transplants-missed-each-year-because-families-don-t-know-what-relative-wanted/
https://www.nhsbt.nhs.uk/news/organ-donation-and-transplant-rates-continue-to-recover-but-opportunities-for-transplant-still-being-missed/

Llofnodi’r ddeiseb hon

7 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon