Deiseb a wrthodwyd Dileu’r ffi flynyddol o £30 y mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol ei thalu i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Os ydych am weithio fel gofalwr/gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae rhaid i chi dalu am y "fraint" i wneud hynny drwy gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mewn diwydiant sydd ar ei liniau ac yn galw’n daer am weithwyr, mae rhwystro mynediad iddo fel hyn y tu hwnt i ddealltwriaeth. Peth rhesymol yw cael corff sy’n helpu i broffesiynoli’r sector a dwyn pobl i gyfrif, ond y llywodraeth ddylai ariannu hyn. Nid yw gweithwyr gofal cymdeithasol ar dâl isel yn gallu fforddio’r dreth ychwanegol hon ar eu hincwm.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi