Deiseb Sganiau Dexa i bob menyw dros 60 oed a menywod â risg uchel o Osteoporosis.
Mae sawl ffrind wedi canfod bod ganddynt Osteoporosis yn ystod eu 60au cynnar. Mae hyn o ganlyniad i dorri asgwrn neu ddioddef poen. Mae modd atal Osteoporosis drwy ddiagnosis cynnar a chyngor/triniaeth. Gallwn roi cyfle i fenywod fwynhau yn eu blynyddoedd hŷn.
Rhagor o fanylion
Mae Osteoporosis yn gyflwr parlysol sy’n effeithio ar lawer o fenywod dros 60 oed. Mae goblygiadau cost sylweddol i fenywod ac i’r GIG.
Ymhlith y rhain mae dirywiad mewn ansawdd bywyd, poen cronig, newidiadau mewn hyder oherwydd pryder am gwympo a delwedd corff.
Cost meddyginiaeth, sgil-effaith posibl torri asgwrn, sy’n golygu bod yn rhaid mynd i’r ysbyty a’r risg o ddal haint yno etc. Mae atal wastad yn well.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd