Deiseb Cyflwyno gofyniad statudol i awdurdodau lleol gludo plant i ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Mae gofyniad statudol i awdurdodau lleol gludo plant ysgol uwchradd i ysgol leol (a allai fod yn ysgol iaith Saesneg gyntaf) os ydynt yn byw mwy na 3 milltir i ffwrdd, ond nid yw hyn yn cwmpasu cludiant i’r ysgol iaith Gymraeg gyntaf agosaf os oes ysgol iaith Saesneg ar gael yn agosach.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwahaniaethu o ran parhad y Gymraeg, a chaniatáu’r dewis i’n plant gael addysg Gymraeg i deuluoedd o bob incwm drwy wneud cludiant i’r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

124 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon