Deiseb a wrthodwyd Torri’r gyllideb newid hinsawdd a’i defnyddio ar gyfer y broblemau go iawn y mae’r wlad yn eu hwynebu

Mae newid hinsawdd yn broblem, ond gyda chyflwr y wlad hon ar hyn o bryd (GIG, gwasanaethau ambiwlans, addysg, cynghorau methdal), dylid gwario’r arian yn well yn sicrhau ein bod yn ariannu’r gwasanaethau rydym eu hangen nawr. Pan fydd y wlad wedi adfer i bwynt cynaliadwy, dyna pryd y gellir defnyddio cymaint o arian ar gyfer newid hinsawdd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi