Deiseb Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru

Mae anifeiliaid anwes yn rhan o’r teulu. Mae herwgydio’r anifeiliaid hyn yn brofiad trawmatig. Er gwaethaf hyn, mae anifeiliaid anwes a gaiff eu dwyn yn cael eu hystyried yn eiddo personol, ac mae’r dedfrydau cysylltiedig yn dibynnu ar eu gwerth ariannol.
Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd Bil Herwgydio Anifeiliaid Anwes 2024 yn cydnabod yr effaith y mae’r drosedd hon yn ei chael ar emosiynau a llesiant pobl ac anifeiliaid anwes. Bydd herwgydio cŵn a chathod yn droseddau penodol a allai arwain at ddedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar. Mae Bil Herwgydio Cŵn (Yr Alban) hefyd yn cael ei ystyried.

Rhagor o fanylion

Mae Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes. Bydd cŵn a chathod sy’n cael eu dwyn yn parhau i gael yr un lefel o flaenoriaeth yng Nghymru ag eiddo sy’n cael ei ddwyn – blaenoriaeth isel. Os caiff troseddwr ei ddal, yn gyffredinol, bydd yn wynebu dirwy fechan neu ddedfryd ohiriedig.
Rydym yn annog y Senedd i ddiwygio’r drefn ar gyfer ymdrin ag achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes.
O gofio bod cosbau mwy penodol wedi’u cyflwyno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd anifeiliaid anwes yng Nghymru mewn perygl o gael eu gweld gan ladron fel targedau mwy gwerthfawr. Rhaid inni gynnig yr un lefel o ddiogelwch i’n hanifeiliaid anwes a’u teuluoedd â’r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o’r DU.

Llofnodi’r ddeiseb hon

526 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon