Deiseb Dylid grymuso Meddygon i ragnodi meddyginiaeth (ADHD) i blant sydd ar restrau aros hir

Mae fy mab wedi cael ei adael yn aros ers chwe blynedd. Yn 5 mlwydd a 6 mis oed, cafodd asesiad tair awr ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Pe bai wedi bod ond chwe mis yn hŷn byddai wedi cael diagnosis ffurfiol a'r driniaeth a'r feddyginiaeth briodol. Yn hytrach, oherwydd newid yn ein lleoliad, rydym wedi treulio hanner degawd yn aros iddo gael ei ailasesu.

Rhagor o fanylion

Nid yw hwn yn achos unigol. Mae miloedd o blant ar draws y wlad ar restrau aros hir iawn; yn methu â chael y feddyginiaeth angenrheidiol oherwydd eu bod yn rhy ifanc neu fod yr achos yn dal i gael ei adolygu. Mae hyn yn eu gadael heb gefnogaeth wrth i'w cyflwr waethygu heb ei reoli. Mae Academi Bediatreg America yn argymell trin ADHD mewn plant dros chwech oed gyda meddyginiaethau a gymeradwywyd gan FDA (Y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau) ynghyd â therapi ymddygiad (ffynhonnell; APP). Eto i gyd mae llawer o feddygon yn teimlo'n ddi-rym i ragnodi'r meddyginiaethau hyn oherwydd biwrocratiaeth tâp coch a rheoliadau llym.
Mae angen newid nawr. Rhaid i ni rymuso Meddygon â’r gallu i ragnodi meddyginiaeth ADHD tra mae plant yn dal i fod ar y rhestr aros hirfaith nid pan fydd yn rhy hwyr. Os nad ar gyfer eich plentyn eich hun, yna llofnodwch y ddeiseb hon ar gyfer y rhai sy'n dioddef oherwydd y system anghyfiawn hon.
Llofnodwch y ddeiseb a'n helpu i newid dyfodol ein plant drwy ganiatáu iddynt gael gafael ar driniaeth amserol y mae ei dirfawr angen arnynt neu ddarparu meddyginiaethau amgen.

Llofnodi’r ddeiseb hon

74 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon