Deiseb a wrthodwyd Galluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis "Hawl i Ddewis" y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer ADHD
Yn wahanol i Loegr, ar hyn o bryd nid oes "Hawl i Ddewis" yng Nghymru o ran galluogi unigolion i ddewis yr ysbyty neu'r gwasanaeth lle’r hoffent gael eu triniaeth GIG. Mae’r Hawl i Ddewis o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr wedi bod ar waith ers 2018, gan roi’r cyfle i oedolion sy’n ceisio asesiad ar gyfer ADHD ddewis darparwr arall pe baent yn penderfynu bod yr amser aros am eu hasesiad GIG yn rhy hir. Gwahaniaethir yn erbyn trigolion Cymru am fod yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Gall rhestrau aros y GIG ar gyfer ADHD fod yn hir. Mae mwy o oedolion nag erioed o'r blaen yn ceisio asesiad ar gyfer cyflwr sy'n aml yn cael ei anwybyddu gan weithwyr proffesiynol clinigol, a’i ystyried yn rhywbeth nad yw'n cael ei ganfod ymhlith oedolion. Yn ogystal, mae unigolion sy'n ceisio asesiad ADHD yn aml yn wynebu meddygon teulu nad oes ganddynt ddealltwriaeth gyfoes o'r gwahanol ffyrdd y gall ADHD oedolion ymddangos mewn menywod o gymharu â dynion. O ganlyniad, mae ADHD yn aml yn cael ei gamddehongli fel cyflwr iechyd meddwl arall fel Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, Gorbryder neu Iselder. Mae oedolion sydd ag ADHD heb ddiagnosis mewn mwy o berygl o golli eu swydd, cael perthynas sy’n chwalu, ymddwyn mewn modd peryglus fel goryrru a chamddefnyddio sylweddau.
https://www.adhd-360.com/right-to-choose/
https://www.england.nhs.uk/mental-health/making-choice-work-in-mental-health/
https://www.walesonline.co.uk/news/uk-news/what-its-like-living-adhd-20911024
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/autism-diagnosis-in-adults-uk-21297752
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi