Deiseb Lleihau elfen lafar y cymhwyster TGAU Cymraeg ar gyfer disgyblion â mudandod dethol

Elfennau llafar yw 50 y cant o asesiadau’r cymhwyster TGAU Cymraeg.
Mae disgyblion â mudandod dethol yng Nghymru yn wynebu gorbryder mawr wrth gwblhau elfennau llafar y cymhwyster TGAU Cymraeg. Bydd llawer yn methu'r cymhwyster am nad ydynt yn gallu siarad yn yr ysgol neu am nad ydynt yn cael eu cofrestru i sefyll y TGAU o gwbl.
Felly, mae dioddefwyr mudandod dethol yng Nghymru dan anfantais yn seiliedig ar eu hanabledd ac ni ellir gwneud unrhyw addasiadau i'w cynorthwyo i ennill y cymhwyster.

Rhagor o fanylion

Mae mudandod dethol yn anhwylder gorbryder eithafol sy'n effeithio ar allu rhywun i gyfathrebu mewn rhai sefyllfaoedd.
Gallwch ddarllen mwy am fudandod dethol yma -
https://www.nhs.uk/mental-health/conditions/selective-mutism/
Mae’r rhai sydd â mudandod dethol yn gallu cael eu tynnu allan o elfen lafar TGAU Saesneg ac elfen lafar TGAU ieithoedd tramor modern. Maent yn ennill mwy o farciau o arholiadau ac asesiadau ysgrifenedig yn lle hynny. Nid yw hyn yn bosibl yn y TGAU Cymraeg gan fod canran mor uchel o'r marc yn seiliedig ar siarad.
Ar hyn o bryd gall dioddefwr mudandod dethol ennill TGAU Sbaeneg yn seiliedig ar y gwaith ysgrifenedig yn unig, ond ni all wneud yr un peth ar gyfer TGAU Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy'n cael eu holl addysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - sy’n dangos bod ganddynt ddealltwriaeth a gallu clir yn yr iaith.

Llofnodi’r ddeiseb hon

28 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon