Deiseb Gwneud gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manylach yn orfodol i bob cyngor tref a phob cynghorydd ledled Cymru
Mae diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn hollbwysig ac mae bylchau o ran gwirio unigolion. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau yn gwirio eu cyflogeion a'u gwirfoddolwyr, ond nid yw rhai cynghorau tref a chynghorau yn gwneud hynny gan nad yw'n ofynnol. Dylai hyn fod yn orfodol i roi sicrwydd i’r cyhoedd a chynghorau, gan fod yn rhaid i gynghorwyr weithiau fynd i gartrefi pobl a chynnal digwyddiadau hefyd.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd