Deiseb a wrthodwyd Diogelu cyllid ar gyfer darpariaeth amgen/addysg heblaw yn yr ysgol i blant sy'n methu â chael mynediad i'r ysgol
Deiseb Diwygio ADY Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer:
a) darpariaeth amgen/addysg heblaw yn yr ysgol i blant sy'n methu â chael mynediad i'r ysgol oherwydd anghenion iechyd corfforol neu feddyliol; a
b) adfer grantiau addysg yn y cartref a dynnwyd yn ôl.
Mae newidiadau wedi'u cynllunio i ddarpariaethau amgen a'r gwasanaeth addysg yn y cartref. Bydd hyn yn niweidiol i blant nad ydynt yn gallu mynd i'r ysgol. Mae grantiau addysg yn y cartref wedi cael eu tynnu oddi ar ddarparwyr ar fyr rybudd sy'n golygu bod rhai plant yn ansicr sut y byddant yn parhau â’u cymwysterau TGAU a gynlluniwyd.
Rhagor o fanylion
Mae yna resymau amrywiol pam nad yw dysgwyr yn mynd i ysgol brif ffrwd ac yn cael addysg heblaw yn yr ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys salwch (corfforol a meddyliol), gwrthod mynd i'r ysgol (ffobia am fynd i’r ysgol), ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, a bod mewn perygl o gael eu gwahardd o'r ysgol. I rai plant mewn addysg heblaw yn yr ysgol, nid yw strwythur yr ysgol brif ffrwd yn eu galluogi i gael eu haddysg mewn ffordd sy'n addas i'w hanghenion unigol.
Mae grantiau addysg yn y cartref wedi cael eu tynnu oddi ar ddarparwyr ar fyr rybudd sy'n golygu bod rhai plant yn ansicr sut y byddant yn parhau gyda chymwysterau TGAU a gynlluniwyd.
Roedd NASUWT a NEU Cymru ill dau yn gwrthwynebu'r cyngor yn dod ag addysgu o dan reolaeth uniongyrchol ysgolion.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi